Hanes Lleol
Saif Tryfan rhwng pentrefi Rhiw ac Aberdaron. Mae Rhiw yn un o’r pentrefi uchaf yn Llŷn, gyda golygfeydd gwych o Ben Llŷn, y Canolbarth a De Cymru, Ynys Môn, Mynyddoedd Eryri, a hefyd Iwerddon ar ddiwrnod clir.
Mae cysylltiad agos iawn rhwng Aberdaron ac Ynys Enlli, gyda thripiau yn mynd yno o Borth Meudwy bob dydd yn yr Haf, pan fo’r tywydd yn ffafriol. Cewch bryd o fwyd yn y Gegin Fawr,lle byddai’r pererinion yn aros cyn croesi i Enlli. Os ewch i ben Mynydd Mawr yn Uwchmynydd, cewch olygfa wych o Enlli, dros y Swnt, a gweddill Llŷn. Mae’n werth croesi’r Swnt i fwynhau tangnefedd Enlli, lle dywedir fod ugain mil o saint wedi eu claddu. Wrth droed Mynydd Mawr, mae olion Eglwys Fair ac yn is i lawr yn y creigiau mae Ffynnon Fair, lle golchai’r pererinion blinedig eu traed cyn croesi’r Swnt peryglus mewn cyryglau bychain, a chyffwrdd daear gysegredig Enlli. Mae’r môr yn rhan bwysig o fywyd pobl Llŷn ac wedi bod felly erioed. Â’r pysgotwyr allan i godi eu cewyll gan obeithio cael helfa dda o grancod a chimychiaid yn ogystal a mecryll a physgod eraill. Drylliwyd llawer o longau ym mae Porth Neigwl yn yr hen amser a dywedir fod pobl yr ardal yn elwa o’r hyn a olchid i’r lan, ac yn ôl yr hanes yn cymeryd modrwyau a phethau eraill oddiar gyrff y rhai anffodus gollodd eu bywydau ac a olchwyd i’r lan. Mae llawer o olion bywyd yn yr hen amser yn yr ardal, yn cynnwys hen amddiffynfeydd, cromlechi a ffatri gwneud bwyeill o Oes y Cerrig. Saif eglwys hynafol Sant Hywyn uwchben y traeth yn Aberdaron ac mae yn agored bob dydd. Bu’r bardd a chenedlaetholwr, R. S. Thomas yn ficer yma am rai blynyddoedd, ac ar ôl ymddeol bu’n byw mewn bwthyn bach uwchben Porth Neigwl ar dir Plas yn Rhiw. Diddorol iawn yw’r wybodaeth a gawsom yn ddiweddar fod Owain Glyndwr wedi bod yn Aberdaron, yn nhŷ Deon Bangor, yn 1405, yn arwyddo cytundeb cyfrinachol rhyngddo ef ag Edward Mortimer a Iarll Northumberland. Dyma’r cytundeb oedd yn nodi sut y rhennid Cymru a Lloegr rhwng y tri pebaent yn gorchfygu a diorseddu brenin Lloegr. Aflwyddiannus fuont yn yr ymosodiad, ond petaent wedi llwyddo, byddai hanes Cymru a Lloegr wedi bod yn wahanol iawn. Honna awduron ‘Journey to Avalon’, fod yn yr ardal gysylltiadau agos â’r Brenin Arthur, mai Ynys Enlli yw Ynys Afallon, ac mai yng Nghadlan, rhwng Rhiw ac Aberdaron, yr ymladdwyd Brwydr Camlan. Dewch yma i fwynhau heddwch a phrydferthwch y Penrhyn. Cewch glywed yr iaith Gymraeg, cerdded llwybr yr arfordir, defnyddio’r llwybr beicio, mwynhau pob math o chwaraeon dŵr, ymlacio ar y traethau a gwledda ar fwydydd lleol o’r ffermydd ac o’r môr o’n cwmpas. |